Beth yw Cyfleuster Pontio Oxbury?
Cyfleuster Pontio Oxbury yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer busnesau ffermio yn y DU. Mae’n cynnig cyllid hyblyg i helpu ffermwyr i reoli eu llif arian ac anghenion cyfalaf wrth iddyn nhw symud tuag at systemau ffermio carbon is a mwy gwydn.
Gyda phwysau cynyddol o du newid hinsawdd, polisïau’r Llywodraeth, a gofynion cadwyni cyflenwi, mae Oxbury yn cydnabod bod angen cymorth ariannol ar ffermwyr i fabwysiadu arferion cynaliadwy. Mae’r cyfleuster hwn yn cymell ac yn gwobrwyo’n ariannol y rhai sydd yn y broses o newid – neu’n bwriadu newid — i ddulliau ffermio sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn gwella iechyd y pridd.
Yn ogystal â rhoi mynediad at gyllid, mae Cyfleuster Pontio Oxbury yn helpu ffermwyr i fesur a dangos effaith eu newidiadau. Mae’n cynnwys:
- Olion Traed Carbon: Bydd y rhain yn cael eu mesur o’r dechrau a thrwy gydol y cyfnod pontio i olrhain gostyngiadau mewn allyriadau.
- Arsylwadau o’r Ddaear: Mae Oxbury wedi partneru â Downforce Technologies, sy’n cyfuno data lloeren ag arsylwadau ar y ddaear i gyfrifo ac olrhain unrhyw welliannau yng Ngharbon Organig y Pridd (SOC).
- Rhannu Data: Bydd modd rhannu tystiolaeth o welliannau cynaliadwy â phartneriaid cadwyn gyflenwi a chyrff y Llywodraeth i ddangos canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.
Mae Oxbury yn cynnig opsiynau ariannu hyblyg yn seiliedig ar ba bynnag gam o’r broses bontio rydych chi arno:
- Archwilio a Chynllunio: Cyfleuster o hyd at ddwy flynedd ar gyfer y rhai sydd ar ddechrau newid.
- Gweithredu a Datblygu: Cyfleuster o hyd at chwe blynedd ar gyfer y rhai sydd wrthi’n newid ac yn ehangu eu cynlluniau.
Beth yw manteision Cyfleuster Pontio Oxbury?
Sut mae ymgeisio?
1. Llenwch y ffurflen
Cwblhewch y ffurflen isod a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi ymhen un diwrnod gwaith. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
2. Cais am gredyd
Yna, byddwn yn dechrau’r broses gynefino, a byddwn yn gofyn am rywfaint o wybodaeth ategol ychwanegol
3. Dogfennaeth
Unwaith y bydd y cyfleuster wedi’i gymeradwyo, byddwch yn cael y canlynol: cytundeb Cyfleuster Pontio Oxbury a Mandad Debyd Uniongyrchol
Get in touch
Rhaglenni Cadwyn Gyflenwi
Rydyn ni wedi partneru â’r rhaglenni cadwyn gyflenwi a diwydiant canlynol i symleiddio’r broses o gynnig tystiolaeth ac olion traed carbon ar gyfer Cyfleuster Pontio Oxbury.
Efallai y bydd ein partneriaeth gyda rhai o’r rhaglenni hyn hefyd yn cynnwys rhai nodweddion ychwanegol i wella’r cynnig i ffermwyr sy’n cymryd y camau ychwanegol.
Pa grantiau amgylcheddol sy’n berthnasol?
Mae’r opsiynau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd isod yn gymwys:
- Cnydau gorchudd
- Glaswellt cymysg, meillion coch neu faglys
- Cnydau protein
- Gwreiddgnydau neu gnydau porthi heb eu chwistrellu, gydag ymylon y caeau heb eu pori
- Grawnfwydydd a heuwyd yn y gwanwyn a heb eu chwistrellu, gan gynnwys y rhai a heuwyd gyda glaswellt cymysg/meillion coch a/neu eu cymysgu â chnydau protein
- Indrawn gyda chnwd gorchudd
O 2026 ymlaen, bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am Gyfleuster Pontio Oxbury drwy gyflwyno tystiolaeth o dderbyn taliadau penodol Haen Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd camau gweithredu penodol o’r themâu isod yn gymwys:
- gwella iechyd y pridd a chnwd gorchudd amlrywogaeth
- cynhyrchu cynaliadwy
- rheolaeth uwch ar gynefinoedd
- creu cynefinoedd dros dro a pharhaol
- gweithredu Rhaglen Waith y Safleoedd Dynodedig
- rheolaeth uwch ar goetiroedd
- creu coetir ac amaeth-goedwigaeth
- creu neu adfer perthi/gwrychoedd
- gwella ansawdd dŵr, y defnydd a wneir o ddŵr, a mesurau lliniaru llifogydd
- ffermio organig (cymorth a throsi)
Mwy o wybodaeth am Gyfleuster Pontio Oxbury
Os ydych chi eisoes yn gwneud newidiadau i’ch gweithrediadau ffermio, bydd angen i chi roi’r canlynol:
- Manylion cytundebau unrhyw grantiau amgylcheddol cymwys; neu
- Gytundebau â phartïon cadwyn gyflenwi sy’n gofyn am arferion penodol e.e. plannu cnydau gorchudd neu arferion trin y tir cyn lleied â phosibl; neu
- Dystiolaeth a wiriwyd yn annibynnol o ddefnyddio arferion agronomegol cymwys.
Os ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau, ond heb roi unrhyw beth ar waith eto, gallwch gyflwyno:
- Cyllidebau, mapiau neu ffurflenni cais ar gyfer y newidiadau y bwriedir eu gwneud.
Mae angen map electronig o’ch fferm a’i hôl troed carbon, nad yw’n hŷn na 24 mis, ar gyfer pob cais. Os nad oes gennych unrhyw un o’r rhain, byddwn yn rhoi canllawiau i’ch cefnogi i gael yr wybodaeth angenrheidiol.
Fel banc a reoleiddir yn llawn, bydd Oxbury yn ymgymryd â gwiriadau agor cyfrif banc safonol. Bydd angen i chi roi caniatâd i Oxbury gynnal chwiliadau priodol gan yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd i gefnogi’ch cais ac i danysgrifennu’r cyfleuster. Mae pob cais yn amodol ar statws. Telerau ac Amodau yn berthnasol.
Cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen ymholiad. Bydd Rheolwr Perthynas Oxbury yn cysylltu â chi i drafod y cynnyrch a’r manylion mewn perthynas â’r gweithgaredd pontio cyn cwblhau cais.
Dydyn ni ddim yn ei gwneud yn ofynnol i chi gynnal gweithgareddau penodol gyda’r cyfleuster, ond mae’r ffaith eich bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau grant a threfniadau’r gadwyn gyflenwi yn rhoi tystiolaeth o’r newidiadau sydd eisoes ar waith.
Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar faint y cyfleuster, efallai y bydd angen diogelwch arnon ni.
Ar ôl ei gymeradwyo, gallwch ddefnyddio platfform Bancio Ar-lein Oxbury eich hun. Bydd hyn yn rhoi’r rhwyddineb a’r hyblygrwydd i chi reoli pryd rydych chi am dynnu arian neu ad-dalu unrhyw gredyd a ddefnyddir. Os yw’n well gennych gysylltu â ni’n uniongyrchol, mae gennym dîm gwasanaethau cwsmeriaid. Gallwch hefyd gysylltu â’r Rheolwr Perthynas a gaiff ei neilltuo i chi.